Image Alt

Ein Llaeth

Ein Llaeth

Mae Llaeth Teulu Jenkins yn llaeth organig wedi’i basteureiddio a gynhyrchir gan ein buches fach o wartheg Holstein. Munudau ar ôl godro, rydym yn pasteureiddio’r llaeth yn ofalus gan godi ei dymheredd i 65°c am 30 munud. Yna rydyn yn dosbarthu ein llaeth i’n peiriannau gwerthu a’n safleoedd manwerthu, er mwyn i chi ei fwynhau am £1.30 y litr.

Rydym am i chi fwynhau ein llaeth yn ei ffurf fwyaf syml. Yn wahanol i laeth y gallwch ei brynu mewn siop arferol, nid yw ein llaeth ni wedi’i homogeneiddio, sy’n golygu y bydd hufen yn codi ac yn setlo ar dop y botel.

Mae llaeth yn llawn fitaminau a mwynau hanfodol i sicrhau dannedd ac esgyrn iach, ac mae ein llaeth yn 96% ddi-fraster. Beth sydd ddim i’w hoffi?

Ysgytlaeth

Mae ein peiriannau gwerthu llaeth yn medru darparu ysgytlaeth ffres, maethlon a blasus wedi’i wneud yn defnyddio llaeth organig. Dewiswch o flasau Banana, Siocled neu Mefus, neu beth am roi cynnig ar y tri?

Di-blastig

Mae modd i chi ddod â photel lân eich hun i gario’ch llaeth adref, neu bydd poteli gwydr 1 litr, y gellir eu hailddefnyddio, ar werth am £2. Gyda’n gilydd, mae modd i ni leihau’r defnydd o blastig.
Gellir gweini ein hysgytlaeth mewn poteli gwydr 1 litr neu mewn cwpan 500ml ailgylchadwy.

Caws

Rydym yn cyflenwi ein llaeth organig i Caws Penhelyg. Mae Caws Penhelyg yn llaethdy fechan wedi'i lleoli 4 milltir o Aberystwyth.

Mae ei caws cyntaf, ‘Abaty’, yn gaws steil brie meddal ffres, hufennog wedi’i wneud gyda'n llaeth organig amrwd ac mae ar gael i’w brynu yn Cwtsh Llaeth Aberystwyth a Machynlleth.

96%

ddi-fraster

18

o fwynhau hanfodol

11

milltiroedd bwyd

6

genedlaeth

cyCymraeg