Llaeth Lleol, Organig

Mae ein llaeth organig, maethlon yn cael ei gynhyrchu gan ein fuches fach o wartheg Holstein sy’n pori glaswellt uwchlaw Cors Fochno ac aber yr afon Dyfi.

Peiriannau gwerthu llaeth ac ysgytlaeth

Mae ein peiriannau gwerthu llaeth ac ysgytlaeth ar agor 24 awr y dydd, yng nghanol trefi Aberystwyth a Machynlleth.

Poteli gwydr y gellir ei hailddefnyddio

Mae ein llaeth yn cael ei werthu mewn poteli gwydr y gellir eu defnyddio (neu gallwch ddod â'ch potel eich hun). Gyda'n gilydd, gallwn dorri'n ôl ar y defnydd o blastig.

Llaeth Lleol, Organig

Bu ein cyndadau yn gwerthu llaeth yn uniongyrchol a nawr, bron i 150 mlynedd yn ddiweddarach, rydym yn falch o allu darparu ein llaeth blasus, organig o'n fferm i'ch teulu.

Pam dewis ein llaeth organig ni?

Beth yw ystyr ‘pasteureiddio ysgafn’?

Mae pasteureiddio yn broses sy’n sicrhau bod llaeth yn rhydd o unrhyw facteria niweidiol ac yn caniatau i chi fwynhau’r llaeth am hirach.
Mae ein llaeth wedi’i basteureiddio’n ysgafn ar dymheredd o 65°c am 30 munud. Ar raddfa fawr, mae llaeth yn cael ei basteureiddio ar dymheredd llawer uwch am gyfnod byrrach. Mae ein ffordd fwy traddodiadol o basteureiddio yn golygu bod y llaeth yn cadw blas mwy naturiol.

Beth mae ‘heb ei homogeneiddio’ yn ei olygu?

Mae homogeneiddio yn broses lle mae’r globylau braster yn y llaeth yn cael eu rhannu’n ddarnau bach iawn. Nid yw ein llaeth ni wedi’u homogeneiddio, sy’n golygu bydd hufen yn codi i’r top, gydag amser. Mae ein peiriannau yn troi’r llaeth yn ysgafn trwy’r amser, felly, does dim angen poeni, bydd pawb yn cael eu siâr o’r hufen. Er mwyn gwasgaru’r hufen unwaith bydd wedi setlo, dim ond ysgwyd y botel yn ysgafn sydd angen gwneud.

Oes modd prynu llaeth hanner-sgim?

Na, dim ar hyn o bryd. Dim ond llaeth organig cyflawn rydym yn ei werthu. Mae llaeth cyflawn yn 96% ddi-fraster, ac mae’n well ei fwynhau yn ei ffurf fwyaf pur.

Pa mor hir fydd y llaeth yn para?

Dylech yfed eich llaeth o fewn 3 diwrnod.

Sut mae golchi’r botel gwydr?

Yn gyntaf, rinsiwch eich potel â dŵr oer. Yna, naill ai rhowch y botel yn rac isaf eich peiriant golchi llestri neu golchwch y botel yn eich ffordd arferol gyda dŵr poeth a sebon, gan ddefnyddio brwsh potel i gyrraedd gwaelod y botel. Sicrhewch fod y caead yn lân ac yn sych hefyd a pheidiwch â gosod y caead ar y botel tan fod y botel yn hollol sych. Peidiwch anghofio dod ag ef yn ôl i’w ail-lenwi!

Cysylltwch â Ni

Os hoffech wybod mwy amdanom ni, cysylltwch â ni.



    cyCymraeg