Image Alt

Gofalu am ein amgylchedd naturiol

Picture3
Mae pob ffermwr da yn gwybod pa mor bwysig yw ffermio mewn modd cynaliadwy, ac o fewn terfynau naturiol y tir. Mae hyn yn arbennig o wir am ffermwyr organig, fel ni. Nid ydym yn defnyddio unrhyw wrtaith neu blaladdwyr artiffisial ac rydym yn gweithio gyda natur i annog bioamrywiaeth.
Rydym wedi bod yn ffermio ein fferm yn organig ers dros 20 mlynedd ac yn ol astudiaeth ddiweddar gan wyddonwyr Prifysgol Rhydychen, mae ffermydd organig, ar gyfartaledd, yn cefnogi 34% yn fwy o rywogaethau planhigion, pryfed ac anifeiliaid, na ffermydd confensiynol.
Priddoedd iach, gyda lefelau uchel o ddeunydd organig, yw sylfaen y system fwyd, ac yr ydym yn cymryd gofal mawr i sicrhau bod ein priddoedd yn aros yn iach.
shutterstock_42595213
Picture1
Ar ein fferm, mae gennym ffensys dwbl i ddiogelu rhesi gwrychoedd sy'n gweithredu fel coridorau ar gyfer bywyd gwyllt ac yr ydym wedi buddsoddi'n helaeth mewn seilwaith i leihau'r risg o lygredd.
Mae ein fferm yn edrych dros Gors Fochno, rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi ac mae rhan o Lwybr Arfordir Cymru yn mynd drwy ein tir; rydym yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i gynnal a gwella'r ased naturiol pwysig hwn.
Coastal path
cyCymraeg