Image Alt

Ein Hanes

Rydym yn ddau frawd, Eifion a Geraint, yn ffermio mewn partneriaeth â'n rhieni, a gyda chefnogaeth ein gwragedd. Ni yw'r 6ed genhedlaeth o deulu Jenkins i ffermio yng Ngherrigcaranau, Tal-y-bont, rhwng Aberystwyth a Machynlleth.
Symudodd ein hen, hen, hen Mamgu a Thadcu i Gerrigcaranau yn 1875, nhw oedd y cyntaf o linell hir o Jenkins' i ffermio yma. (Roedd y fferm wedi cael ei ffermio gan deulu ein hen, hen, hen Mamgu ers peth amser cyn hynny hefyd.)
Dilynodd pum cenhedlaeth yn ôl eu traed, pob un yn cymryd y cyfrifoldeb o fod yn geidwaid y tir, gan drosglwyddo eu gwybodaeth a'u profiad, o un genhedlaeth i'r llall.
Darparodd ein cyndadau gynnyrch yn uniongyrchol i bentrefi lleol, ac yn awr, rydym yn ôl, ynghyd â'r 7fed genhedlaeth, yn gwneud yr un peth. yn darparu llaeth lleol, organig, maethlon i drigolion Aberystwyth a Machynlleth.
cyCymraeg